Rhif y Ddeiseb: P-06-1491

Teitl y ddeiseb: Rydym yn mynnu bargen deg i drigolion yr effeithir arnynt gan y cynllun Arbed/y Rhaglen Arbed Ynni Cymunedau

Geiriad y ddeiseb:  Ym mis Medi 2012, ymunodd trigolion Caerau ac ardaloedd eraill yng Nghymru â chynllun effeithlonrwydd ynni a gynhaliwyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

Darparodd y cynllun inswleiddio wal fewnol ac allanol i'r tai dan sylw ac, ers i’r inswleiddio gael ei osod, mae tai cyfranogwyr wedi dioddef o leithder a llwydni. Mae hyn yn ei dro wedi bod yn dreth ar gyllid preswylwyr ac mae wedi effeithio'n negyddol ar iechyd meddwl preswylwyr.

Fe wnaethon ni ymuno â'r cynlluniau hyn gyda phob ewyllys da, ac rydym nawr am i'r ewyllys da honno gael ei had-dalu.

Rhagor o fanylion:

Roedd y gwaith yn cynnwys insiwleiddio mewnol ac allanol, boeleri newydd, fentiau ar yr eiddo, a gwaith rendro.

Ers i'r gwaith gael ei wneud, mae trigolion wedi gorfod byw gydag achosion eithafol o leithder a llwydni. Oherwydd hyn, mae trigolion yn gorfod talu am waith i unioni pethau, fel talu am geginau newydd, carpedi newydd, paent newydd, bleindiau newydd.  Mae hyn wedi bod yn broblem barhaus ers dros ddegawd bellach.  Yn anffodus, mae rhai trigolion wedi marw heb weld y materion hyn yn cael eu datrys.  Ceir isod lincs i straeon newyddion sy'n rhoi rhagor o wybodaeth:

https://oggybloggyogwr.com/2021/11/the-caerau-insulation-scandal-a-timeline-of-shame/

 

https://oggybloggyogwr.com/2021/11/welsh-government-unenthusiastic-about-supporting-arbed-scandal-clean-up-in-caerau/

 

https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-politics-60765932

 

Rhaid unioni’r difrod i'r eiddo, a rhaid digolledu’r trigolion am y miloedd o bunnoedd maen nhw wedi eu talu o’u pocedi eu hunain i ddad-wneud y difrod.

 


1.        Y cefndir

Roedd Arbed yn gynllun effeithlonrwydd ynni ar sail ardal a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru a ddechreuodd yn 2009, ac a gynhaliwyd mewn sawl cam. I ddechrau, roedd Llywodraeth Cymru yn bwriadu i ran olaf y cynllun gael ei gynnal o fis Mai 2018 hyd fis Mai 2021, gyda chyfanswm cyllideb o £46 miliwn ac opsiwn i ymestyn y cytundeb am hyd at ddwy flynedd arall. Cafodd y cynllun ei ymestyn tan fis Tachwedd 2021 ond mae'r cytundeb bellach wedi dod i ben.

Rhwng mis Hydref 2018 a mis Mawrth 2021, gosododd Arbed fesurau mewn 3,108 o gartrefi, gyda 2,095 (67%) ohonynt yn cael system wresogi newydd, 1,777 (57%) o gartrefi yn cael paneli solar a 415 (13%) yn cael insiwleiddio eu hatig.

Roedd y Rhaglen Arbed Ynni Cymunedau (CESP) yn cael ei chynnal rhwng 1 Hydref 2009 a 31 Rhagfyr 2012. Roedd CESP yn rhan o Raglen Arbed Ynni Cartref Llywodraeth y DU. Cynlluniwyd CESP i hyrwyddo dull 'tŷ cyfan' ac i drin cynifer o eiddo â phosibl mewn ardaloedd daearyddol diffiniedig a ddewiswyd gan ddefnyddio Parth Incwm y Mynegeion Amddifadedd Lluosog (IMD) yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

1.1.            Caerau

Yn 2012-2013, gwnaeth llawer o drigolion yng Nghaerau, Pen-y-bont ar Ogwr gais i gymryd rhan mewn rhaglen effeithlonrwydd ynni genedlaethol a oedd â’r nod o ddarparu gwell inswleiddio waliau mewnol ac allanol ar gyfer cartrefi lleol, o leihau allyriadau carbon, a lleihau biliau tanwydd ac ynni ar gyfer cartrefi.

Cyflawnwyd y gwaith hwn fel rhan o ddau gynllun. Cafodd cyfanswm o 79 eiddo waith o dan y CESP, a noddwyd gan Lywodraeth y DU gan ddefnyddio cyllid gan y prif gyflenwyr ynni, tra bod gwaith wedi’i wneud ar 25 eiddo drwy gynllun Arbed Llywodraeth Cymru.

Yn fuan ar ôl cwblhau'r gwaith, dechreuodd rhai cartrefi brofi problemau fel lleithder a llwydni du ar waliau mewnol. Yn 2019, comisiynodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr y cwmni Nuvision Energy (Wales) Cyf. i gynnal astudiaeth ar sampl cynrychioliadol o gartrefi, ac i gynhyrchu adroddiad yn amlinellu'r problemau a oedd wedi codi. Arolygwyd 32 o gartrefi – a chanfuwyd bod problemau gyda'r gwaith a wnaed ym mhob un ohonynt.

1.2.          Archwilio mewnol

Yn 2018, adolygodd Gwasanaeth Archwilio Mewnol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ba raddau yr oedd polisïau a gweithdrefnau’r Cyngor wedi’u cymhwyso neu heb eu cymhwyso mewn cysylltiad â chynllun Arbed rhwng mis Medi 2012 a mis Ebrill 2013.

Roedd canfyddiadau’r adran Archwilio Mewnol yn amlygu nifer o faterion gweithdrefnol mewnol yn ymwneud â llywodraethu, gwneud penderfyniadau, caffael, ac agweddau ar fonitro a rheoli'r cyllid yr oedd y Cyngor yn ei weinyddu ar gyfer y Cynllun ar y pryd.

2.     Camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru

Ysgrifennodd Jane Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, at y Pwyllgor ar 26 Chwefror 2025. Mae hi’n dweud bod insiwleiddio waliau allanol a osodwyd o dan y CESP wedi methu mewn 104 o gartrefi perchen-feddianwyr yng Nghaerau a bod y contractwyr gwreiddiol “wedi rhoi’r gorau i fasnachu ac ni roddwyd unrhyw warantau pan gwblhawyd y gwaith”.

Dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu £2.65 miliwn o gyllid grant cyfalaf i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2025 i wneud gwaith adfer ar 79 o gartrefi, ac y byddai 25 arall yn cael eu hariannu gan y Cyngor.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn nodi’r camau y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn eu cymryd i ymgysylltu â’r gymuned leol. Mae hyn yn cynnwys sesiynau galw heibio wythnosol i breswylwyr, a chyfathrebu rheolaidd ar gynnydd y gwaith adfer. Mae hi’n dweud bod Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi tynnu deunydd insiwleiddio waliau allanol o dros hanner y cartrefi, a “chaiff dyluniadau ar gyfer ailosod y deunydd hwn eu hawdurdodi yn yr ychydig wythnosau nesaf”.

Nid yw llythyr Ysgrifennydd y Cabinet yn sôn am gynllun Arbed Llywodraeth Cymru.

3.     Camau gweithredu gan Senedd Cymru

Yn ystod y Cyfarfod Llawn ym mis Tachwedd 2024, gofynnodd Tom Giffard AS i Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â “gweithredu cynllun Arbed yng Nghaerau” a pha wersi a ddysgwyd. Amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet gyllid grant Llywodraeth Cymru i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a ddisgrifir uchod. Dywedodd fod problemau yn y gorffennol wedi llywio’r gwaith o ddylunio Rhaglen Cartrefi Clyd newydd Llywodraeth Cymru sy’n cynnwys “sicrwydd ansawdd o safon uwch”. Fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet ymhelaethu ymhellach ar gamau sicrwydd yn y cynllun newydd yn dilyn datganiad gerbron y Senedd ym mis Ionawr 2025.

Gofynnodd Luke Fletcher AS am y problemau sy’n gysylltiedig â chynllun Arbed yn ystod y Cyfarfod Llawn ym mis Medi 2024. Dywedodd  y Prif Weinidog:

Nid oedd hwn yn fodel o'r ffordd yr oeddem ni eisiau i'r prosiect penodol hwn weithio. Mae'n fecanwaith o inswleiddio waliau allanol; effeithiwyd ar 104 o gartrefi.  Roedd hynny oherwydd crefftwaith gwael, ac nid yw hynny'n dderbyniol.  Rwy'n credu ei bod hi'n werth tanlinellu, fel Llywodraeth, nad oes cyfrifoldeb ffurfiol na chyfreithiol arnom i ni gywiro'r sefyllfa, ond y gwir amdani yw ein bod ni wedi cyfrannu £2.6 miliwn i helpu cyngor Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn gwneud yn siŵr bod pobl yn gallu cywiro'r gwaith hwnnw.  Felly, rwy'n gwybod bod y gwaith eisoes wedi dechrau a bod cyfleoedd i bobl weithio gyda'r Cyngor i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael y cywiriadau sydd eu hangen arnyn nhw i'w cartrefi.

Mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar hyn o bryd yn cynnal ymchwiliad dilynol i dlodi tanwydd a'r Rhaglen Cartrefi Clyd newydd. Er nad yw’r ymchwiliad yn canolbwyntio ar achosion penodol, fel testun y ddeiseb hon, mae’r Pwyllgor wedi clywed pryderon am enghreifftiau o grefftwaith gwael yn y gorffennol. Mae hefyd wedi clywed galwadau am gynllun newydd ar sail ardal, i gymryd lle Arbed. Disgwylir i'r Pwyllgor gyhoeddi adroddiad maes o law.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.